Cylchlythyr Menter Organig Llangybi – Tachwedd 2003

Dyma fo’n cylchlythyr ni ar ei newydd wedd! Oherwydd costau argraffu, bu’n rhaid gwneud pob peth yn fwy syml. Does dim lluniau, fel y gwelwch chi. Ond mi gewch chi weld y rheini ar y We ar www.llangybi-organics.co.uk.

Mae hi wedi gwneud hydref braf ar y naw! Mae’n debyg bod sychdwr yn nwyrain Prydain. Ond mi fu digon o law yn y cwrr hwn o’r byd i’r pridd beidio â sychu, a dim gwerth o wynt. Ond gan ei bod hi’n oeri bellach gyda’r nos, mae tymor y tomatos a’r corjéts yn dod i ben.  

Ffair Harlech: Roedd gennym ni stondin yn y Ffair Gynaladwyedd hon yn Harlech ddechrau mis Hydref, a bu cryn fynd ar ein llysiau ni, a holi am ein gwaith.

Llysiau: Mae llysiau’r ha’n dod i ben, a llysiau’r gaea’n dod yn eu lle. Nid tomatos, ciwcymbars a’r pupur gewch chi o hyn allan, ond y gwrd neu’r sgwosh, panas, sbrowts, cennin, a chabaetsh. A hefyd hynny o lysiau salad y medrwn ni ddal i’w tyfu drwy’r gaea’ yn y twnel; llysiau dwyreiniol, a dail salad, fel letus a phorpin y gaea’. Mae tatws a nionod yn ddiogel yn storfa Ty’n Lôn. Bu’r moron yn wych eleni, ac mae’r rheini’n cadw’n reit dda yn y pridd. OND, gan fod y ffasiwn fynd ar y llysiau, efallai na fydd digon i bara drwy’r gaea’ a’r gwanwyn. Os hynny, be’ wnawn ni, yn lle cau yn gyfan-gwbwl am sbel, ydi gwneud bagiau llai. Ond mi gewch chi ddigon o rybudd, wrth reswm. 

Rysáit: Wrth inni glirio’r tomatos dros yr wythnosau nesa’ ’ma, mi gewch chi rai gwyrddion yn eich bagiau. Mae’r rheini’n flasus iawn wedi eu ffrio; eu torri nhw yn eu hanner, eu rhoi nhw mewn ychydig o flawd efo halen a phupur, a’u ffrio nhw mewn olew. Maen nhw’n siort orau mewn chutney hefyd, wrth gwrs – sef ‘catwad’ yn Gymraeg! Neu gadwch nhw ar sil ffenest i gochi yn yr haul. Mi gewch chi weld pob mathau o rysetiau eraill ar ein lle ar y we.

Wrth godi’ch bag, wnewch chi gofio…

1. Rhoi tic yn Nhŷ’r Wennol wrth beth bynnag rydach chi wedi dod i’w nôl, yn wyau neu yn llysiau, er mwyn i ni wybod pwy sy wedi cael beth! Bu dipyn o ddryswch ambell waith!

2. Rhoi’ch tâl mewn amlen, a’ch enw ar yr amlen, a’i tharo hi drwy ddrws y tŷ. Peidiwch â gadael yr amlen yn Nhŷ’r Wennol, rhag ofn iddi fagu adenydd!

3. Rhoi gwybod  i Jill os ydach chi am roi archeb barhaol am wyau. Fel arall, cynta’ i’r felin! Efallai y bydd yr wyau fymryn yn brin, cofiwch. Mi fu Siôn Blewyn Coch yma yr wythnos diwetha’, ac rydym wedi colli rhai o’n hieir a’n chwiaid. Hefyd, wrth i’r dydd fyrhau, mae rhai adar yn rhoi’r gorau i ddodwy.

Cig mochyn organig: Mae sosejus neu gig sosejus ar gael gan Jill am £2.70 am becyn 400 gram.

Eich cefnogaeth chi: Diolch am ddychwelyd y bocsus mawr a bach! Rydym ni angen bagiau neges bob amser hefyd, ond dim ond y rhai maint cyffredin. Dydi’r rhai mawr iawn a’r rhai bach yn dda i ddim.  A diolch am ganmol cymaint ar ein llysiau!

Llawn dop dynn!  Does dim lle i fwy o gwsmeriaid! Ond os ydach chi’n nabod rhywun â diddordeb, mi rown ni’r enw ar y rhestr aros.

Diolch o galon ichi am gefnogi Menter Organig Llangybi mor selog! Diolch hefyd am eich sylwadau am y tŷ shippon mae Bry wrthi’n ei godi ym Mur Crusto. Y fo ydi’r dyn welwch chi wrth gyrraedd i nôl eich bag, yn gosod llechi ar ben to. Mae’r gwaith ara’ ac anodd hwnnw bron â dod i ben, diolch i’r nefoedd, meddai!


Val & Bry, Mur Crusto, 01766 819109             

Jill & Mike, Ty’n Lôn 01766 810915