Cylchlythyr Menter Organig Llangybi – Tachwedd 2004

Croeso i Gylchlythyr Mis Tachwedd! Efallai na fasai’n ddrwg o beth, gan fod aelodau newydd  wedi ymuno â’r Fenter, imi sôn eto am y trefniadau ynglŷn â dod i nôl eich bag neu’ch bocs.

- Dowch i nôl eich llysiau mor fuan ag y bo modd ar ôl 5 nos Wener. Rydan ni’n gwneud ein gorau i’w cael nhw’n barod erbyn 4, a hithau’n nosi’n gynt ac yn gynt.  Ond dydi’r tywydd ddim bob amser yn caniatáu!

- Cofiwch roi tic ar y rhestr yn Nhŷ’r Wennol wrth bob peth rydach chi’n ei gymryd.  Nodwch bob peth ychwanegol hefyd, fel afalau ac wyau chwaden. Wedyn rhowch eich tâl yn un o’r amlenni sy yno, sgwennwch eich enw arni, a’i tharo hi yn y bocs metal du. Bydd rhai’n anghofio gwneud weithiau, ac mae hynny’n peri dryswch i ni!

- Y drefn orau gynnon ni ydi i chi dalu am fis o flaen llaw, a hynny ar ddechrau pob mis newydd. Cofiwch fod ambell fis â phedwar Gwener ynddo, ac ambell un a phump.

- Mae wyau ieir yn brin, nid yn unig am ei bod yn aea’, ond hefyd am fod rhai o adar Jill wedi marw. Mae hi newydd brynu dwy gywen, ond chawn ni ddim wyau gan y rheini cyn y flwyddyn newydd. Daliwch i ofyn am eich wyau ymlaen llaw gan Jill, a pheidiwch â mynd â rhai nad ydach chi wedi gofyn amdanyn nhw, achos wyau rhywun arall fyddan nhw! A ddyco wy a ddwg fwy!

Waeth ichi chwadan na iâr: Mae wyau chwaden ar gael gan amla’ rŵan. Nid wyau brown ydi’r rhain ond gwyn, ac ym marn rhai mae mwy o flas arnyn nhw na wyau iâr. Defnyddiwch nhw’n yn union yr un fath â rhyw wyau eraill, eu berwi nhw, neu eu ffrïo nhw. Mae ’na rai’n troi eu trwynau ar wyau chwaden, heb reswm o fath yn y byd.  Prynwch hanner dwsin i’w profi.

Newyddion y tyddyn: Hydref trychinebus! Mae’r tywydd gwlyb a thywyll wedi drysu pethau’n ofnadwy. Mae mafon Mur Crusto, fydd mor doreithiog yn yr hydref gan amla’, wedi difetha bron i gyd; mae rhai o’r letus wedi pydru; mae llysiau eraill heb dyfu neu heb aeddfedu’n iawn. Diflas ydi hel llysiau ar law mawr a gwynt, a phob dim yn drybola o fwd! Mae’r tomatos wedi marw o’r clwy ac o ddifyg gwres a haul. Bwrn i ni, a siomedig i chithau, gan fod llai o ddewis ichi nag sydd i fod.

Gwirfoddolwr: Y tro diwetha’, gofynwyd a fasai gan rywun ddiddordeb i ymuno yn hwyl yr hel a’r pacio. A wyddoch chi be’? Mae ’na un! Mae Andy Batten yn ein helpu ni erbyn hyn am rai oriau bob wythnos i gael pob peth yn barod erbyn ichi ddod. Un hwyliog a pharod ei gymorth sy wedi ysgafnhau dipyn ar y baich!

Papas Sarpó: O Beríw y daw’r dysen, papa yn iaith y brodorion. Mae yno Ganolfan Datws Ryngwladol sy’n diogelu’r rhan fwya’ o’r 3, 800 o wahanol fathau y bydd Indiaid yr Andes yn eu tyfu. Ond mae tatws yn dal i ddiodde o’r clwy hwnnw a ddifethodd datws Iwerddon, ac achosi’r newyn mawr. Wrth dyfu tatws yn organig, chawn ni ddim defnyddio gwenwyn cemegol i ladd ffwng, ac mae tatws felly yn agored iawn i ddal y clwy. Ond eleni yn Tŷ’n Lôn,  o dan oruchwyliaeth Dave Shaw o Brifysgol Bangor, buom yn rhoi prawf ar dysen newydd, sef   tysen Sarpó o Hwngari. Fydd y clwy ddim yn ymysod mor aml ar hon, a bydd yn dal i dyfu’n gry ac yn iach, a thatws prydeinig cyffredin wedi mynd yn llwtrach. Mae’r tatws hyn yn eich bagiau ers rhai wythnosau, a’u henw ar y rhestr sy o’ch blaen pan ewch chi i Dŷ’r Wennol. Mi hoffai Jill a Dave glywed eich barn am datws Sarpó!  Cysylltwch â  Jill!