CYNLLUN BOCS LLYSIAU ORGANIG

Mae’r cynllun hwn yn ganlyniad o gydweithrediad rhwng dwy fferm organic yn Llangybi, sef  Tŷ’n Lôn Uchaf a Mur Crusto. Masnachir Mur Crusto fel “Organig Llangybi Organics” a defnyddir y term yma i gyfeirio at y cydweithrediad rhwng y ddwy fferm.  Bydd y “bocsys” - fel arfer bagiau, ar gael yn wythnosol.

Prisiau’r bocsys/bagiau: £11.00 neu  £16.50

Tu mewn i’r bocsys cewch amrywiaeth o lysiau organig tymhorol ffres sydd wedi cael eu tyfu yma yn Llangybi i safonau organig y “Soil Association”. Yn anffodus, ni fydd yn bosib i chi ddewis cynnwys eich bocs ond byddwch yn cael gwerth eich arian efo’r cynllun hwn, a siawns i fentro gyda llysiau newydd. Yn ystod yr haf a’r hydref byddem yn cynnig dewis ychwanegol o ffrwythau tymhorol. Cynhyrchir cylchlythyr yn rheolaidd sydd yn cynnwys ryseitiau ac yn helpu i ni gadw mewn cysylltiad efo chi. Yn ogystal, croesawir unrhyw sylwadau sydd gennych ar ein cynnyrch a’r cynllun.

Ymrwymiad: Trwy weithredu’r cynllun hwn, ‘rydym yn ymdrechu i’ch darparu gyda bocs o lysiau ffres bob wythnos, rhywbeth sydd yn cymryd cryn dipyn o waith cynllunio ofalus er mwyn eu tyfu yn ystod y misoedd ymlaen llaw. Oherwydd hyn, gofynnir i chi, fel cwsmer, wneud ymrwymiad tebyg i ni drwy brynu bocs bob wythnos. Os byddwch yn mynd i ffwrdd a ellwch drefnu i deulu, ffrindiau neu gymdogion i gael eich bocs.

Gwnewch y sieciau yn daladwy i Val Lynas.

Sut byddwch chi’n cael eich bocs? Yn anffodus ni fydd yn bosib i ni gludo neu ddosbarthu’r bocsys, ond byddem yn ystyried gwneud hyn yn ardal Llangybi yn unig am daliad bychan . Bydd y bocsys yn barod i chi yn Fferm Mur Crusto, Llangybi, bob Dydd Gwener ar ol 5.00pm. Os ydych yn byw yn bellach i ffwrdd, beth am drefnu nôl y bocsys gyda phobl eraill yn eich bro? Gadewch i ni wybod os ydych yn fodlon i ni roi eich manylion cyswllt i bobl eraill.

Sut i ymuno â’r cynllun? Llenwch y ffurflen atodiedig a’i yrru yn ôl trwy’r post os gwelwch yn dda.

Rhestr aros?. Os nad ydych yn llwyddo i fod ar ein “rhestr fer” i dderbyn bocs o lysiau, byddem yn rhoi eich enw ar restr aros nes bydd rhywun yn disgyn allan neu bydd digon o gynnyrch yn barod. Caiff eich lle ei flaenoriaethu yn ôl y dyddiad rydych wedi ymgeisio.

Gobeithir y byddwch yn ymuno a’n cynllun ac y byddwch yn mwynhau’ch llysiau!

Mike Langley a Jill Jackson, Ty’n Lon Uchaf, Llangybi, Pwllheli.  01766 810915.

Val a Bry Lynas, Mur Crusto, Llangybi, Pwllheli, LL53 6LX. 01766 819109,

www.llangybi-organics.co.uk